2 Macabeaid 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Y mae'n cofnodion hanesyddol yn dangos mai'r proffwyd Jeremeia a orchmynnodd i'r alltudion gymryd y tân, fel y disgrifiwyd eisoes,

2. a hefyd fod y proffwyd, ar ôl cyflwyno'r gyfraith iddynt, wedi gorchymyn i'r alltudion beidio ag anghofio gorchmynion yr Arglwydd, na mynd ar gyfeiliorn yn eu meddyliau wrth syllu ar ddelwau o aur ac arian a'r gwisgoedd gwych amdanynt;

3. ac â geiriau eraill cyffelyb fe'u hanogodd i beidio â throi'r gyfraith allan o'u calonnau.

2 Macabeaid 2