2 Macabeaid 15:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Rhoddwyd gwybod i Nicanor fod Jwdas a'i wŷr yng nghyffiniau Samaria, a gwnaeth ef gynllun i ymosod arnynt ar eu dydd gorffwys heb ddim perygl iddo'i hun.

2. Ond yr oedd yn ei fyddin Iddewon a oedd wedi eu gorfodi i'w ganlyn, a dywedodd y rhain wrtho, “Paid ar unrhyw gyfrif â chyflawni'r fath laddfa greulon ac anwar, ond anrhydedda'r dydd y rhoddwyd arno barch arbennig ynghyd â sancteiddrwydd yr Un sy'n gweld pob peth.”

3. Ond dyma'r dyn hwn a drwythwyd mewn pechod yn gofyn ai yn y nef yr oedd y Penarglwydd oedd wedi gorchymyn cadw dydd y Saboth.

4. Atebasant hwythau yn groyw, “Ie yn wir, hwnnw sydd yn y nef, yr Arglwydd byw, yw'r Penarglwydd a ordeiniodd barchu'r seithfed dydd.”

2 Macabeaid 15