2 Esdras 9:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yna trewir â syndod y rhai a fu'n sarhau fy ffyrdd i; mewn poenedigaethau y pery'r rhai a fu'n eu gwrthod yn wawdlyd.

10. Pawb a fethodd f'adnabod yn ystod eu bywyd, er iddynt dderbyn bendithion gennyf;

11. pawb a wawdiodd fy nghyfraith pan oedd eu rhyddid yn dal ganddynt,

12. ac a wrthododd â dirmyg diddeall y cyfle i edifarhau pan oedd o hyd ar gael iddynt—rhaid i'r rhain ddod i'm hadnabod trwy boenedigaeth ar ôl marw.

2 Esdras 9