2 Esdras 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd yr angel fi fel hyn: “Gwnaeth y Goruchaf y byd hwn ar gyfer llawer, ond y byd sydd i ddod ar gyfer ychydig.

2. Ond gad imi roi eglureb iti, Esra. Hola'r ddaear, ac fe ddywed wrthyt y rhydd hi ddigonedd o glai i wneud llestri pridd, ond ychydig iawn o'r llwch y ceir aur ohono. Yr un yw ffordd y byd hwn:

3. y mae llawer, yn wir, wedi eu creu, ond ychydig a gaiff eu hachub.”

2 Esdras 8