2 Esdras 7:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;

40. heb na chwmwl na tharan na mellten; heb na gwynt na dŵr nac awyr; heb na thywyllwch na hwyr na bore;

41. heb na haf na gwanwyn na gwres; heb na gaeaf na rhew nac oerfel; heb na chenllysg na glaw na gwlith;

42. heb na chanol dydd na nos na gwawr; heb na disgleirdeb na llewyrch na goleuni; dim ond llewyrch ysblennydd y Goruchaf, y bydd pawb yn dechrau gweld wrtho beth a ragosodwyd iddynt.

43. Bydd y dydd yn parhau megis am wythnos o flynyddoedd.

2 Esdras 7