2 Esdras 6:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dyna'r pryd y meddyliais, a daeth y pethau hyn i fod trwof fi—trwof fi, nid trwy neb arall, fel y daw'r diwedd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.”

7. Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”

8. Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.

2 Esdras 6