2 Esdras 6:56-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

56. Ond am y cenhedloedd eraill, sy'n disgyn oddi wrth Adda, dywedaist nad ydynt hwy'n ddim, a'u bod yn debyg i boeryn, a chyffelybaist eu digonedd hwy i ddiferyn o ddŵr o lestr.

57. Eto, Arglwydd, wele yn awr y cenhedloedd hynny a gyfrifwyd yn ddim yn arglwyddiaethu arnom ni ac yn ein llyncu.

58. Ond yr ydym ni, dy bobl di—a elwaist dy gyntafanedig, dy uniganedig, dy ffefryn a'th anwylyn—wedi ein traddodi i'w dwylo hwy.

59. Os er ein mwyn ni yn wir y crewyd y byd, pam nad yw'r etifeddiaeth, sef ein byd ni, yn ein meddiant? Pa hyd y bydd hyn yn parhau?”

2 Esdras 6