2 Esdras 6:4-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Nid oedd uchelderau'r awyr wedi eu codi fry, na pharthau'r ffurfafen wedi eu henwi, na Seion wedi ei chyfrif yn droedfainc Duw;

5. nid oedd yr oes bresennol wedi ei chynllunio; nid oedd ystrywiau pechaduriaid yr oes hon wedi eu gwahardd, na sêl wedi ei gosod ar y rhai sydd wedi cadw ffydd yn drysor iddynt eu hunain.

6. Dyna'r pryd y meddyliais, a daeth y pethau hyn i fod trwof fi—trwof fi, nid trwy neb arall, fel y daw'r diwedd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.”

7. Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”

8. Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.

9. Y mae Esau'n cynrychioli diwedd yr oes hon, a Jacob ddechrau'r oes nesaf.

10. Dechrau dyn yw ei law, a diwedd dyn yw ei sawdl Paid â chwilio am ddim arall rhwng sawdl a llaw, Esra.”

11. “F'arglwydd feistr,” meddwn innau,

12. “os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dangos i mi ddiwedd dy arwyddion, y dangosaist ran ohonynt imi y noson flaenorol honno.”

13. Atebodd fi fel hyn: “Saf ar dy draed, a chei glywed llais cryf yn atseinio;

14. ac os bydd y lle y sefi arno yn siglo

15. pan lefara'r llais, paid â dychrynu; oherwydd ynglŷn â'r diwedd y bydd neges y llais, a bydd seiliau'r ddaear yn deall

16. mai amdanynt hwy y mae'n traethu. Crynant a siglant, oherwydd gwyddant am eu diwedd, bod newid llwyr i ddigwydd.”

17. Ar ôl imi glywed hyn, sefais ar fy nhraed a gwrando; a dyma lais yn llefaru, a'i sŵn fel sŵn dyfroedd lawer.

18. Meddai'r llais: “Y mae'r dyddiau yn wir yn dod pan ddof yn agos i farnu preswylwyr y ddaear,

19. pan fynnaf gyfrif gan ddrwgweithredwyr didostur am eu drygioni, pan fydd darostyngiad Seion wedi ei gwblhau,

20. a phan fydd sêl wedi ei gosod ar yr oes sydd ar ddarfod. Yna gwnaf yr arwyddion a ganlyn: agorir y llyfrau yng ngolwg y ffurfafen, a chaiff pawb eu gweld yr un pryd.

21. Bydd babanod blwydd oed yn medru siarad; bydd gwragedd beichiog yn esgor yn gynamserol, wedi tri neu bedwar mis, a bydd eu plant yn fyw ac yn llamu o gwmpas.

22. Yn sydyn ymddengys mannau a heuwyd fel rhai heb eu hau, a cheir stordai llawn yn sydyn yn wag;

23. bydd yr utgorn yn seinio'n uchel, a daw dychryn ar unwaith ar bawb a'i clyw.

24. Y pryd hwnnw bydd cyfeillion yn ymladd â chyfeillion fel petaent yn elynion, a daw ofn ar y ddaear ynghyd â'i thrigolion. Bydd dyfroedd y ffynhonnau yn sefyll, ac am dair awr fe beidiant â llifo.

2 Esdras 6