2 Esdras 6:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.

33. Dyna pam yr anfonodd fi atat i ddangos yr holl bethau hyn iti ac i ddweud wrthyt: ‘Bydd ffyddiog, a phaid ag ofni.

34. Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”

35. Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.

36. A'r wythfed nos, yr oedd fy nghalon wedi ei chythryblu unwaith eto o'm mewn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf;

2 Esdras 6