2 Esdras 6:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yna cânt weld y rheini a dderbyniwyd i'r nefoedd heb iddynt erioed brofi marwolaeth. Newidir calon trigolion y ddaear, ac fe'u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd.

27. Oherwydd caiff drygioni ei lwyr ddiddymu, a thwyll ei ddileu;

28. ond bydd ffyddlondeb yn blodeuo, llygredd yn cael ei orchfygu, a'r gwirionedd, a fu'n ddiffrwyth cyhyd, yn dod i'r amlwg.”

29. Tra oedd y llais yn siarad â mi, dyma'r man yr oeddwn yn sefyll arno yn dechrau siglo

30. Yna meddai'r angel wrthyf: “Dyna'r pethau y deuthum i'w dangos iti y nos hon

2 Esdras 6