1. Atebodd fi: “Ystyria ddechrau cyntaf y ddaear: nid oedd pyrth y byd yn sefyll eto; nid oedd gwyntoedd yn ymgasglu ac yn chwythu,
2. na thrwst taranau yn atseinio, na fflachiadau mellt yn disgleirio; nid oedd seiliau paradwys wedi eu gosod,
3. na blodau prydferth i'w gweld: nid oedd y grymoedd sy'n troi'r bydysawd wedi eu sefydlu, na lluoedd dirifedi'r angylion wedi eu casglu ynghyd.
4. Nid oedd uchelderau'r awyr wedi eu codi fry, na pharthau'r ffurfafen wedi eu henwi, na Seion wedi ei chyfrif yn droedfainc Duw;
5. nid oedd yr oes bresennol wedi ei chynllunio; nid oedd ystrywiau pechaduriaid yr oes hon wedi eu gwahardd, na sêl wedi ei gosod ar y rhai sydd wedi cadw ffydd yn drysor iddynt eu hunain.
6. Dyna'r pryd y meddyliais, a daeth y pethau hyn i fod trwof fi—trwof fi, nid trwy neb arall, fel y daw'r diwedd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.”
7. Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”
8. Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.
9. Y mae Esau'n cynrychioli diwedd yr oes hon, a Jacob ddechrau'r oes nesaf.
10. Dechrau dyn yw ei law, a diwedd dyn yw ei sawdl Paid â chwilio am ddim arall rhwng sawdl a llaw, Esra.”
11. “F'arglwydd feistr,” meddwn innau,
12. “os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dangos i mi ddiwedd dy arwyddion, y dangosaist ran ohonynt imi y noson flaenorol honno.”
13. Atebodd fi fel hyn: “Saf ar dy draed, a chei glywed llais cryf yn atseinio;
14. ac os bydd y lle y sefi arno yn siglo
15. pan lefara'r llais, paid â dychrynu; oherwydd ynglŷn â'r diwedd y bydd neges y llais, a bydd seiliau'r ddaear yn deall
16. mai amdanynt hwy y mae'n traethu. Crynant a siglant, oherwydd gwyddant am eu diwedd, bod newid llwyr i ddigwydd.”
17. Ar ôl imi glywed hyn, sefais ar fy nhraed a gwrando; a dyma lais yn llefaru, a'i sŵn fel sŵn dyfroedd lawer.
18. Meddai'r llais: “Y mae'r dyddiau yn wir yn dod pan ddof yn agos i farnu preswylwyr y ddaear,