2 Esdras 4:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’

16. Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.

17. A'r un modd cynllwyn tonnau'r môr, oherwydd safodd y tywod yn ddiysgog a'u rhwystro hwy.

18. Yn awr, pe bait ti'n farnwr ar y rhain, p'run ohonynt y byddit ti am ei gyhoeddi'n ddieuog, a ph'run ei gondemnio?”

2 Esdras 4