2 Esdras 3:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt.

21. Oherwydd yr oedd yr Adda cyntaf wedi ei feichio â chalon ddrwg: cyflawnodd drosedd, ac fe'i gorchfygwyd; ac nid ef yn unig, ond ei holl ddisgynddion hefyd.

22. Felly aeth y gwendid yn beth parhaol, ac ynghyd â'r gyfraith yr oedd y drygioni gwreiddiol hefyd yng nghalonnau'r bobl; felly ymadawodd yr hyn sydd dda, ac arhosodd y drwg.

23. “Aeth cyfnodau heibio, a daeth y blynyddoedd i ben, ac yna codaist i ti dy hun was o'r enw Dafydd.

24. Gorchmynnaist iddo adeiladu dinas i ddwyn dy enw, ac i gyflwyno iti yno offrymau o blith yr hyn sy'n eiddo iti.

2 Esdras 3