2 Esdras 2:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae eu tir yn gorwedd dan dywyrch pyglyd a thomennydd o ludw; felly y gwnaf â'r rhai a wrthododd wrando arnaf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.

10. Dyma eiriau'r Arglwydd wrth Esra: “Cyhoedda wrth fy mhobl y rhoddaf iddynt hwy deyrnas Jerwsalem, yr oeddwn am ei rhoi i Israel.

11. Adfeddiannaf ogoniant Israel; a'r tragwyddol bebyll yr oeddwn wedi eu darparu iddi hi, fe'u rhoddaf i'm pobl fy hun.

12. Eiddynt hwy fydd pren y bywyd a'i arogl pêr, ac ni ddaw llafur a lludded arnynt.

13. Ceisiwch, ac fe gewch; gofynnwch am i'r dyddiau fod yn ychydig i chwi, ac am eu byrhau; eisoes y mae'r deyrnas wedi ei pharatoi i chwi; byddwch yn wyliadwrus.

2 Esdras 2