2 Esdras 2:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Gwna gyfiawnder â'r weddw, barna dros y di-dad, rho i'r anghenus, gofala am yr amddifad, dillada'r noeth.

21. Cymer ofal o'r clwyfedig a'r gwan, paid â gwawdio'r cloff, gwarchod yr anafus, a dwg y dall i olwg fy nisgleirdeb i.

22. Cadw'r hen a'r ifanc yn ddiogel o fewn dy furiau.

23. Lle bynnag y doi o hyd i rai meirw, cladda hwy mewn bedd, gan osod nod arnynt; yna, pan atgyfodaf y meirw, rhoddaf i ti y lle blaenaf.

24. Ymlacia a bydd lonydd, fy mhobl; oherwydd fe ddaw dy orffwystra.

25. Di, famaeth dda, meithrin dy blant a rho nerth i'w traed hwy.

26. Ni chollir un o'r gweision a roddais i ti, oblegid fe'u ceisiaf o blith dy rifedi.

2 Esdras 2