2 Esdras 16:57-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys.

58. Â'i air cyfyngodd ef y môr oddi mewn i derfynau'r dyfroedd, a gosod y ddaear ynghrog uwchben y dŵr.

59. Taenodd ef y nef fel cronglwyd, a'i sefydlu goruwch y dyfroedd.

60. Gosododd ffynhonnau dŵr yn yr anialwch, a llynnoedd ar ben y mynyddoedd i ollwng afonydd i lawr o'r ucheldir i ddyfrhau'r ddaear.

61. Lluniodd ef ddyn, a gosod calon yng nghanol ei gorff; rhoddodd ynddo ysbryd a bywyd a deall,

62. ynghyd ag anadl y Duw Hollalluog, a greodd bob peth ac sy'n chwilio pethau cuddiedig mewn mannau dirgel.

2 Esdras 16