2 Esdras 14:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Y mae oes y byd wedi ei rhannu'n ddeuddeg rhan, ac eisoes aeth naw o'r rhannau hynny heibio, a hanner y ddegfed ran;

12. nid oes ond dwy ran ohoni'n aros, ynghyd â hanner arall y ddegfed ran.

13. Yn awr, felly, gosod dy dŷ mewn trefn; rhybuddia dy bobl, rho gysur i'r rhai gostyngedig yn eu mysg, ac ymwâd bellach â'r bywyd llygradwy.

14. Bwrw ymaith oddi wrthyt feddyliau meidrol, a thafl i ffwrdd oddi wrthyt dy feichiau dynol;

15. yn awr diosg oddi amdanat dy natur wan, gosod o'r neilltu y pryderon sy'n pwyso drymaf arnat, a brysia i ffoi rhag yr amseroedd hyn.

16. Oherwydd er mor fawr y drygau a welaist eisoes, y mae rhai gwaeth i ddigwydd ar ôl hyn.

2 Esdras 14