2 Esdras 13:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Cyfeiriaist at y rhai a adewir, a dyma'r dehongliad:

23. yr un a fydd yn achos perygl yn yr amser hwnnw, ef ei hun hefyd fydd yn gwarchod yn eu perygl y rhai y mae ganddynt weithredoedd a ffydd yn yr Hollalluog.

24. Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw.

25. Dyma ddehongliad y weledigaeth: y dyn a welaist yn dod i fyny o eigion y môr

26. yw'r un y mae'r Goruchaf yn ei gadw'n barod drwy oesoedd lawer; bydd ef ei hun yn gwaredu ei greadigaeth ac yn pennu tynged y rhai a adewir.

2 Esdras 13