2 Esdras 13:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oblegid bydd y rhai ni adewir yn drist,

18. am eu bod yn gwybod beth sydd ynghadw yn y dyddiau diwethaf, a hwythau'n ei golli.

19. Ond gwae hefyd y rhai a adewir, oherwydd byddant hwy'n gweld peryglon mawr a chyfyngderau lawer, fel y mae'r breuddwydion hyn yn dangos.

20. Eto i gyd, gwell dioddef y perygl a chyrraedd y pethau hyn na diflannu fel cwmwl o'r byd, heb weld yr hyn a ddigwydd yn y diwedd.”

21. Atebodd fi fel hyn: “Fe ddehonglaf y weledigaeth iti, ac at hynny egluraf ynglŷn â'r pethau y buost yn siarad amdanynt.

2 Esdras 13