12. Ond ni roddwyd iddo ef y dehongliad yr wyf yn ei roi i ti yn awr, neu a rois iti eisoes.
13. Ystyria, y mae'r dyddiau'n dod pan gyfyd ar y ddaear deyrnas a fydd yn fwy arswydlon na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.
14. Bydd deuddeg brenin yn olynol yn llywodraethu ar y deyrnas honno,
15. ac o'r deuddeg, yr ail i ddod i'r deyrnas a fydd yn teyrnasu hwyaf.
16. Dyna'r esboniad ar y deuddeg aden a welaist.
17. Ynglŷn â'r llais a glywaist yn dod allan, nid o bennau'r eryr ond o ganol ei gorff, ac yn llefaru,
18. dyma'r esboniad ar hwnnw: yn dilyn cyfnod teyrnasiad yr ail frenin, fe gyfyd ymrafaelion nid bychan, a bydd y deyrnas mewn perygl o gwympo; eto ni chwymp y pryd hwnnw, ond fe'i hadferir i'w chyflwr cychwynnol.