2 Esdras 11:43-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog.

44. Y mae'r Goruchaf wedi edrych yn ôl ar ei amserau; y maent wedi dod i ben, ac y mae ei oesoedd ef wedi eu cyflawni.

45. Felly rhaid i ti, yr eryr, ddiflannu o'r golwg yn llwyr, ynghyd â'th adenydd ofnadwy, a'th is-adenydd ysgeler, dy bennau atgas, dy ewinedd creulon, a'th holl gorff diwerth.

46. Felly, wedi ei gwaredu oddi wrth dy drais di, caiff yr holl ddaear adfywiad ac adnewyddiad; yna gall obeithio am farn ac am drugaredd yr Un a'i creodd.”

2 Esdras 11