2 Esdras 11:38-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. “Gwrando, rwyf am siarad â thi.

39. Y mae'r Goruchaf yn dweud wrthyt: ‘Onid ti yw'r unig un sy'n aros o'r pedwar bwystfil y perais iddynt deyrnasu ar fy myd, er mwyn dirwyn fy amserau i ben drwyddynt?’

40. Ti yw'r pedwerydd i ddod, ac yr wyt wedi trechu'r holl fwystfilod a aeth o'r blaen, gan arglwyddiaethu ar y byd â braw mawr ac ar yr holl ddaear â'r gormes llymaf. Cyhyd o amser y buost fyw yn y byd trwy dwyll!

41. Ac nid â gwirionedd y bernaist y ddaear.

2 Esdras 11