2 Esdras 10:39-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Oherwydd gwelodd dy ffordd uniawn, dy dristwch parhaus am dy bobl a'th fawr alar dros Seion.

40. Dyma, felly, yr esboniad ar y weledigaeth. Ychydig amser yn ôl ymddangosodd gwraig iti,

41. ac fe'i gwelaist hi'n galaru, a dechreuaist ei chysuro;

42. ond erbyn hyn nid ffurf y wraig yr wyt yn ei gweld, ond ymddangosodd iti ddinas yn cael ei hadeiladu.

43. Ac ynglŷn â'r hyn a ddywedodd hi wrthyt am dynged ei mab, dyma'r eglurhad.

44. Seion yw'r wraig hon a welaist, ac yr wyt yn ei chanfod yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu.

2 Esdras 10