2 Esdras 10:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. os nad yw fy synhwyrau'n methu a minnau'n breuddwydio.

37. Felly rwy'n crefu arnat yn awr egluro'r dryswch hwn i'th was.”

38. Atebodd ef fi: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf, ac egluraf iti ynglŷn â'r pethau yr wyt yn eu hofni, oherwydd y mae'r Goruchaf wedi datguddio dirgelion lawer iti.

39. Oherwydd gwelodd dy ffordd uniawn, dy dristwch parhaus am dy bobl a'th fawr alar dros Seion.

40. Dyma, felly, yr esboniad ar y weledigaeth. Ychydig amser yn ôl ymddangosodd gwraig iti,

41. ac fe'i gwelaist hi'n galaru, a dechreuaist ei chysuro;

2 Esdras 10