2 Esdras 10:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. A minnau'n llefaru'r geiriau hyn, dyma'r angel a ddaethai ataf yn y dechrau yn cyrraedd. Pan welodd fi'n

30. gorwedd fel dyn marw, a'm meddwl wedi ei ddrysu, gafaelodd yn fy llaw dde a'm cyfnerthu; cododd fi ar fy nhraed, a dweud:

31. “Beth sy'n bod arnat? Beth yw achos dy gynnwrf? Pam y mae dy ddeall, a theimladau dy galon, wedi eu cynhyrfu?”

32. “Am i ti fy llwyr adael i,” atebais innau. “Oherwydd yr wyf wedi gwneud yr hyn a ddywedaist wrthyf: deuthum allan i'r maes; ac ar fy ngwir, gwelais—a gwelaf o hyd—bethau na allaf eu hadrodd.”Meddai ef wrthyf:

33. “Saf ar dy draed fel dyn, ac fe egluraf hyn i ti.”

34. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau; “yn unig paid â'm gadael i farw yn ddibwrpas.

2 Esdras 10