2 Esdras 1:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion.

8. Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth!

9. Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt?

10. Yr wyf wedi dymchwelyd llawer o frenhinoedd er eu mwyn; trewais i lawr Pharo a'i weision, ynghyd â'i holl fyddin.

11. Difethais yr holl genhedloedd o'u blaen, ac yn y dwyrain gwasgerais bobl y ddwy dalaith, Tyrus a Sidon; lleddais bob un a'u gwrthwynebai.

12. “Llefara di wrthynt fel hyn. Dyma eiriau'r Arglwydd:

13. Fel y gŵyr pawb, myfi a'ch dug chwi trwy'r môr, a phalmantu ffyrdd eang ichwi lle na bu ffordd o'r blaen; rhoddais Moses yn arweinydd ichwi ac Aaron yn offeiriad;

14. darperais golofn o dân i roi goleuni ichwi, a gwneuthum ryfeddodau mawr yn eich plith. Ond chwithau, yr ydych wedi fy anghofio i, medd yr Arglwydd.

15. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Cawsoch soflieir yn arwydd ichwi, a rhoddais wersyll yn amddiffyn ichwi; ond grwgnach a wnaethoch yno,

16. nid gorfoleddu yn fy enw i am i'ch gelynion gael eu difetha; yn wir yr ydych yn parhau i rwgnach hyd y dydd heddiw.

2 Esdras 1