2 Esdras 1:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Daeth gair yr Arglwydd ataf fi fel hyn:

5. “Dos at fy mhobl a chyhoedda wrthynt eu troseddau; dywed wrth eu plant am y camweddau y maent wedi eu cyflawni yn fy erbyn i, er mwyn iddynt hwythau gyhoeddi wrth blant eu plant

6. fod pechodau eu rhieni wedi cynyddu fwyfwy ynddynt hwy, am iddynt fy anghofio i ac aberthu i dduwiau dieithr.

7. Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion.

8. Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth!

9. Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt?

2 Esdras 1