24. Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau.
25. Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych.
26. Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth.
27. Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.
28. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Onid wyf fi wedi ymhŵedd arnoch, fel tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei babanod,
29. ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau?
30. Felly, fe'ch cesglais chwi ynghyd fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Ond beth a wnaf â chwi yn awr? Bwriaf chwi allan o'm gŵydd.
31. Pan ddygwch offrymau i mi, trof fy wyneb oddi wrthych; oherwydd yr wyf wedi gwrthod eich dyddiau gŵyl, eich newydd-loerau, a'ch enwaediadau ar y cnawd.