2 Cronicl 32:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.

29. Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.

30. Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.

2 Cronicl 32