2 Cronicl 24:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.

3. Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.

4. Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.

5. Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, “Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw.” Ond ni frysiodd y Lefiaid.

6. Galwodd y brenin ar Jehoiada, yr archoffeiriad, a dweud wrtho, “Pam na fynnaist fod y Lefiaid yn casglu o Jwda a Jerwsalem y dreth a osododd Moses gwas yr ARGLWYDD ar gynulleidfa Israel ar gyfer pabell y dystiolaeth?

2 Cronicl 24