2 Cronicl 23:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y seithfed flwyddyn ymwrolodd Jehoiada, a gwnaeth gynghrair â'r capteiniaid, Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sichri.

2. Aethant hwythau trwy Jwda a chasglu'r Lefiaid o bob dinas, a phennau-teuluoedd Israel, i ddod i Jerwsalem.

3. Yna gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod â'r brenin yn nhŷ Dduw. Dywedodd Jehoiada wrthynt, “Dyma fab y brenin! Bydded iddo deyrnasu, fel y dywedodd yr ARGLWYDD y gwnâi meibion Dafydd.

4. Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch chwi'r offeiriaid a'r Lefiaid, sy'n dod ar ddyletswydd ar y Saboth, i wylio'r pyrth;

2 Cronicl 23