2 Cronicl 20:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. ‘Os daw unrhyw niwed i ni trwy gleddyf, llifeiriant, haint neu newyn, yna fe safwn o'th flaen di ac o flaen y tŷ hwn, oherwydd y mae dy enw arno. Gwaeddwn arnat yn ein trybini, ac fe wrandewi di arnom a'n gwaredu.’

10. Yn awr, dyma'r Ammoniaid, y Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, pobl na adewaist i Israel ymosod arnynt wrth ddod allan o'r Aifft, pobl y troes Israel i ffwrdd oddi wrthynt a pheidio â'u difetha;

11. gwêl sut y mae'r rhain yn talu'n ôl i ni trwy ddod i'n gyrru allan o'th etifeddiaeth, a roddaist i ni.

12. O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti.”

2 Cronicl 20