2 Cronicl 18:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”

12. Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”

13. Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf.”

14. Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd wrtho, “Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw.”

15. Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?”

2 Cronicl 18