2 Cronicl 17:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;

16. yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.

17. O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;

18. yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.

19. Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wahân i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.

2 Cronicl 17