2 Cronicl 17:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd stôr yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.

13. Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,

14. wedi eu rhestru yn ôl eu tylwythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;

2 Cronicl 17