2 Corinthiaid 8:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. un sydd, heblaw hyn, wedi ei benodi gan yr eglwysi i fod yn gyd-deithiwr â ni, ac i'n cynorthwyo yn y rhodd raslon yr ydym yn ei gweinyddu, i ddangos gogoniant yr Arglwydd ei hun a'n heiddgarwch ni.

20. Yn hyn oll yr ydym yn gofalu na chaiff neb fai ynom mewn perthynas â'r rhodd hael hon a weinyddir gennym.

21. Oherwydd y mae ein hamcanion yn anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg pobl.

2 Corinthiaid 8