2 Corinthiaid 4:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ond y mae'r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni.

8. Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith,

9. ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio.

10. Yr ydym bob amser yn dwyn gyda ni yn ein corff farwolaeth yr Arglwydd Iesu, er mwyn i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein corff ni.

11. Oherwydd yr ydym ni, a ninnau'n fyw, yn cael ein traddodi yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein cnawd marwol ni.

12. Felly y mae marwolaeth ar waith ynom ni, a bywyd ynoch chwi.

13. Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Credais, ac am hynny y lleferais”, yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru,

2 Corinthiaid 4