2 Corinthiaid 3:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Oherwydd os oedd gogoniant yn perthyn i weinidogaeth sy'n condemnio, rhagorach o lawer mewn gogoniant yw gweinidogaeth sy'n cyfiawnhau.

10. Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach.

11. Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn oedd i ddiflannu, gymaint mwy yw gogoniant yr hyn sydd i aros!

12. Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn,

13. ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu.

14. Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef.

2 Corinthiaid 3