2 Corinthiaid 11:27-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Bûm mewn llafur a lludded, yn fynych heb gwsg, mewn newyn a syched, yn fynych heb luniaeth, yn oer ac yn noeth.

28. Ar wahân i bob peth arall, y mae'r gofal dros yr holl eglwysi yn gwasgu arnaf ddydd ar ôl dydd.

29. Pan fydd rhywun yn wan, onid wyf finnau'n wan? Pan berir i rywun gwympo, onid wyf finnau'n llosgi gan ddicter?

30. Os oes rhaid ymffrostio, ymffrostiaf am y pethau sy'n perthyn i'm gwendid.

31. Y mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sydd fendigedig am byth, yn gwybod nad wyf yn dweud celwydd.

32. Yn Namascus, yr oedd y llywodraethwr oedd dan y Brenin Aretas yn gwylio dinas Damascus er mwyn fy nal i,

33. ond cefais fy ngollwng i lawr mewn basged drwy ffenestr yn y mur, a dihengais o'i afael.

2 Corinthiaid 11