2 Brenhinoedd 9:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, “Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi.”

35. Ond pan aethant i'w chladdu, ni chawsant ddim ohoni ond y benglog a'r traed a chledrau'r dwylo.

36. A phan ddaethant yn ôl a dweud wrtho, dywedodd Jehu, “Dyma a fynegodd yr ARGLWYDD drwy ei was Elias y Thesbiad: Yn rhandir Jesreel fe fwyty'r cŵn gnawd Jesebel,

37. a bydd corff Jesebel fel tail ar wyneb cae yn rhandir Jesreel, fel na ellir dweud, ‘Dyma Jesebel.’ ”

2 Brenhinoedd 9