2 Brenhinoedd 9:21-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Dywedodd Joram, “Cyplwch fy ngherbyd.” Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22. Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, “A yw popeth yn iawn, Jehu?” Atebodd yntau, “Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?”

23. Yna troes Joram ei gerbyd yn ôl a ffoi, a gweiddi ar Ahaseia, “Brad, Ahaseia!”

24. Cydiodd Jehu yn ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau nes i'r saeth fynd trwy ei galon, a syrthiodd i'r cerbyd.

25. Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, “Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar ôl ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn:

26. ‘Cyn wired ag y gwelais waed Naboth a'i feibion ddoe, medd yr ARGLWYDD, fe dalaf yn ôl i ti yn y rhandir hwn, medd yr ARGLWYDD’; felly, gafael ynddo a bwrw ef allan i'r rhandir, yn ôl gair yr ARGLWYDD.”

27. Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei ôl ac yn dweud, “Tarwch yntau hefyd.” A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.

28. Yna cludodd ei weision ef i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei feddrod gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

29. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram fab Ahab y daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda.

30. Daeth Jehu i Jesreel. Pan glywodd Jesebel, colurodd ei hwyneb ac addurno ei phen, ac edrychodd allan trwy'r ffenestr.

31. Fel yr oedd Jehu yn cyrraedd y porth, dywedodd wrtho, “A fydd heddwch, Simri, llofrudd ei feistr?”

32. Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, “Pwy sydd o'm plaid? Pwy?” Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, “Taflwch hi i lawr.”

33. Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.

34. Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, “Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi.”

35. Ond pan aethant i'w chladdu, ni chawsant ddim ohoni ond y benglog a'r traed a chledrau'r dwylo.

36. A phan ddaethant yn ôl a dweud wrtho, dywedodd Jehu, “Dyma a fynegodd yr ARGLWYDD drwy ei was Elias y Thesbiad: Yn rhandir Jesreel fe fwyty'r cŵn gnawd Jesebel,

37. a bydd corff Jesebel fel tail ar wyneb cae yn rhandir Jesreel, fel na ellir dweud, ‘Dyma Jesebel.’ ”

2 Brenhinoedd 9