9. Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar ôl cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, “Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, ‘A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?’ ”
10. Atebodd Eliseus, “Dos a dweud wrtho, ‘Rwyt yn sicr o wella.’ Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw.”
11. A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw.
12. Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.”
13. Dywedodd Hasael, “Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr â hyn?” Atebodd Eliseus, “Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria.”