2 Brenhinoedd 6:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld.” Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent.

21. A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, “Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?”

22. Atebodd yntau, “Na, paid â'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a dŵr o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn ôl at eu meistr.”

23. Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.

2 Brenhinoedd 6