2 Brenhinoedd 25:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis, pan oedd newyn trwm yn y ddinas a phobl y wlad heb fwyd, bylchwyd mur y ddinas.

4. A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hyn, ffodd gyda'i holl filwyr allan o'r ddinas liw nos, drwy'r porth rhwng y ddau fur sydd wrth ardd y brenin; ac er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas, ffodd y brenin i gyfeiriad yr Araba.

5. Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar ôl y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chwâl.

6. Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn ôl at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno.

2 Brenhinoedd 25