2 Brenhinoedd 23:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Lladdodd ar yr allorau bob un o offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, a llosgi esgyrn dynol arnynt cyn dychwelyd i Jerwsalem.

21. Rhoddodd y brenin orchymyn i'r holl bobl, “Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn.”

22. Oherwydd ni chadwyd Pasg fel hwn er dyddiau'r barnwyr a fu'n barnu Israel, na thrwy holl flynyddoedd brenhinoedd Israel a Jwda.

23. Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Joseia y cadwyd y Pasg hwn i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

24. Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.

2 Brenhinoedd 23