2 Brenhinoedd 21:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei dŷ;

24. ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

25. Am weddill hanes Amon, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

26. Claddwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

2 Brenhinoedd 21