2 Brenhinoedd 19:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “ ‘Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr ŷd sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth.

30. Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio i lawr ac yn ffrwytho i fyny;

31. oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.’

32. “Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria:“ ‘Ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i'w mewn;nid ymesyd arni â tharian, na chodi clawdd i'w herbyn.

33. Ar hyd y ffordd y daeth, fe ddychwel;ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

34. Byddaf yn darian i'r ddinas hon i'w gwaredu,er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”

2 Brenhinoedd 19