2 Brenhinoedd 17:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna ymosododd ar y wlad i gyd, ac aeth i fyny yn erbyn Samaria a gwarchae arni am dair blynedd.

6. Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, gorchfygwyd Samaria gan frenin Asyria, a chaethgludodd ef yr Israeliaid i Asyria a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

7. Digwyddodd hyn am i'r Israeliaid bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, a'u dygodd i fyny o wlad yr Aifft, o law Pharo brenin yr Aifft.

8. Aethant i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid; hynny hefyd a wnaeth brenhinoedd Israel.

9. Yr oedd yr Israeliaid yn llechwraidd yn gwneud pethau anweddus yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac yn adeiladu uchelfeydd ym mhob un o'u trefi, o dŵr gwylwyr hyd ddinas gaerog,

2 Brenhinoedd 17