2 Brenhinoedd 17:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Gofalwch gadw bob amser y deddfau a'r barnedigaethau a'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennodd ef ar eich cyfer; peidiwch ag addoli duwiau eraill.

38. Peidiwch ychwaith ag anghofio'r cyfamod a wneuthum â chwi, a pheidiwch ag addoli duwiau eraill.

39. Ond addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe'ch gwared o law eich holl elynion.”

40. Eto ni wrandawsant, eithr dal at eu hen arferion.

41. Yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli'r ARGLWYDD, a'r un pryd yn gwasanaethu eu delwau; ac y mae eu plant a'u hwyrion wedi gwneud fel eu hynafiaid hyd heddiw.

2 Brenhinoedd 17