2 Brenhinoedd 17:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Felly aeth un o'r offeiriaid, a gafodd ei gaethgludo o Samaria, i fyw ym Methel, a'u dysgu sut i addoli'r ARGLWYDD.

29. Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw.

30. Yr oedd pobl Babilon yn gwneud Sucoth-benoth, pobl Cuth yn gwneud Nergal, pobl Hamath yn gwneud Asima,

31. yr Awiaid yn gwneud Nibhas a Tartac, a gwŷr Seffarfaim yn llosgi eu plant i Adrammelech ac Anammelech duwiau Seffarfaim.

2 Brenhinoedd 17